Hilary Davies Therapi Cerdd

Mae Hilary Davies yn therapydd cerdd cofrestredig efo’r HCPC (Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal)), ac yn aelod o’r British Association of Music Therapy (BAMT), sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau therapi cerdd, yn Saesneg neu yn Gymraeg. Mae sesiynau ar gael ar lein, neu yn ardal West Sussex.

Mae hi wedi gweithio gyda plant ac oedolion efo anableddau dysgu, plant ac oedolion niwroamrywiol / gydag awtistiaeth, oedolion hŷn sy’n byw efo dementia, pobl sy wedi dioddef trawma a phobl efo problemau iechyd meddwl. 

Mae therapi cerdd yn fath o therapi seicolegol, rheoledig gan y Health and Care Professions Council. Does dim angen profiad cerddorol blaenorol arnoch chi. 

Os dach chi eisiau trafod eich anghenion unigol, anfonwch e-bost (hdmusictherapy@protonmail.com) neu llenwch y ffurflen cysylltiad, os gwelwch yn dda. 

www.hcpc-uk.org

www.bamt.org