bling headshot smile bandw.jpg

Hilary Davies MA, MA (Cantab.).

Mi wnaeth Hilary graddio o’r Guildhall School of Music and Drama ym mis Gorffennaf 2019, gyda gradd Meistr yn Therapi Cerdd (gyda Rhagoriaeth) ac mae hi yn Therapydd Cerdd gofrestredig gyda’r HCPC (Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal). Mae Hilary wedi gweithio ar gyfer Nordoff Robbins Dwyrain yr Alban (gyda phlant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol, oedolion gydag anableddau dysgu, a mewn hosbis), a MHA (gyda phobl sy’n byw gyda dementia). Ar hyn y bryd, mae hi’n gweithio ar ei liwt ei hun, yn cynnwys prosiectau mewn hosbis, gydag oedolion a phlant niwrowahanol (awtistig) a gydag oedolion gydag anghenion dwys.

Mae Hilary yn cydlynu'r Rhwydwaith Awtistiaeth (ASC) ar gyfer y “British Association of Music Therapy” (BAMT) a mae hi’n Ysgrifennydd ar gyfer y Fforwm Ymgynghorol ar gyfer Therapïau Celfyddydau Cymru. Mae hi wedi cyflwyni ei ymchwil therapi cerdd hi yn y Gynhadledd BAMT 2021, yn Rhwydwaith Ymchwil BAMT a Rhwydwaith ASC BAMT, a bydd hi yn cyflwyni yn y Gynhadledd Therapi Cerdd Ewropeaidd yn 2022.

Roedd Hilary yn astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt (Coleg Gonville and Caius), yn cwblhau graddau BA (Hons) a MA mewn Cerddoriaeth. Cyn ail-hyfforddi fel therapydd cerdd, roedd hi yn gweithio ar gyfer fwy na ddegawd fel athrawes, perfformiwr a chyfansoddwr. Mae hi yn chwarae offerynnau cerddorol amrywiol, yn cynnwys ffliwt, ffidil, piano, gitâr a chrwth. Mae gan Hilary diddordebau cerddorol eclectig, yn cynnwys cerddoriaeth glasurol cyfoes, cerddoriaeth gynnar, cerddoriaeth werin draddodiadol a chyfoes, jas a gwaith byfyrfyr.