Beth Ydy Therapi Cerdd?

“Music therapy is an established psychological clinical intervention, which is delivered by HCPC (Health and Care Professions Council) registered music therapists to help people whose lives have been affected by injury, illness or disability through supporting their psychological, emotional, cognitive, physical, communicative and social needs.”

(British Association of Music Therapy, www.bamt.org)

Mae therapi cerdd gallu bod yn llesol ar gyfer amrywiaeth eang o bobl, yn cynnwys plant neu oedolion efo awtistiaeth, anableddau dysgu neu anawsterau cymdeithasol ac emosiynol, plant neu oedolion sy’n dioddef o drawma, pobl hŷn gyda dementia, neu unrhyw berson sy’n teimlo angen o gefnogaeth ychwanegol, er enghraifft oherwydd yr effaith o salwch, anafiad neu brofedigaeth. Does dim angen profiad cerddorol blaenorol arnoch chi.

 

Fel rheol, mae therapi cerdd yn therapi rhyngweithiol: mae’r therapydd a'r client yn creu cerddoriaeth efo’u gilydd (mewn unrhyw ffordd alla i fod yn bosib gan yr unigolyn). Gall y sesiwn therapi cerdd yn cynnwys amrywiaeth o ffyrdd o greu cerddoriaeth: yn byfyrfyrio cerddoriaeth efo’u gilydd, yn chwarae a chanu caneuon cyfarwydd, gweithgareddau cerddorol wedi’u gynllunio, ysgrifennu caneuon neu yn gwrando ac yn siarad am gerddoriaeth. Weithiau, mi fasa'r therapydd yn creu darn o gerddoriaeth arbennig ar gyfer rhywun, yn ymateb i’r symudiadau, seiniau, iaith y corff neu hyd yn oed yr anadlu o rywun. Mae pob sesiwn therapi cerdd yn unigryw, a does dim unrhyw fath o ddisgwyliad am sut dyla rhywun ymateb i’r therapi cerdd (does dim “cywir” neu “anghywir” yn sesiwn therapi cerdd).

Mae’n beth brin i gyfarfod rhywun heb unrhyw gysylltiad efo cerddoriaeth, mewn unrhyw sefyllfa bersonol. Mae cerddoriaeth yn gallu bod yn ffordd addas i bawb i gyfathrebu, sy’n gallu bod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sy’n cael trafferth i fynegi eu hunain trwy eiriau, neu sy wedi cael profiad bod nhw ddim yn gallu egluro trwy eiriau. Mae therapi cerdd yn gallu cynnig yn “holding space” saff, lle mae’n bosib mynegi emosiynau a theimladau anodd, a chael cefnogaeth ac ymateb gan y therapydd. Mae therapi cerdd yn wastad yn cael ei addasu ar gyfer anghenion yr unigolyn: bwriad y therapydd ydy cynnig cefnogaeth, yn bersonol a trwy’r gerddoriaeth, i alluogi’r bobl sy’n dod i therapi cerdd i ddefnyddio’r gerddoriaeth yn y ffordd gorau amdanyn nhw.