Niwroamrywiaeth

Mae gen i brofiad personol o Niwroamrywiaeth / awtistiaeth, a rydw i’n gweithio gyda phersbectif cadarnhaol tuag at Niwroamrywiaeth, gyda chleientiaid ar y sbectrwm Awtistig neu gleientiaid gyda ffurfiau amrywiol o niwroamrywiaeth, er enghraifft ADHD a dyspracsia. Rydw I’n gweld niwroamrywiaeth fel rhan integran o’r hunaniaeth yr unigolyn, fel ffurf naturiol o amrywiaeth dynol, a nid rhywbeth rydwn ni’n eisiau newid trwy therapi. Fodd bynnag, mi gall fod anawsterau sy’n cael ei achosi gan niwroamrywiaeth, er enghraifft anawsterau emosiynol (yn cynnwys anawsterau efo rheoleiddiad emosiynol), anawsterau gyda chymdeithasu a chyfathrebu, anawsterau gyda thrawma neu hunaniaeth. Rydan ni’n gallu archwilio a gweithio ar y fath anawsterau trwy therapi cerdd. 

 

Mae sesiynau yn gallu cymryd lle wyneb i wyneb neu ar lein. 

 

Os dach chi eisiau trafod eich anghenion unigol, anfonwch e-bost (hdmusictherapy@protonmail.com) neu llenwch y ffurflen cysylltiad, os gwelwch yn dda.

Previous
Previous

Cyfeirabau Preifat

Next
Next

Sesiynau Ar Lein