Therapi Cerdd mewn Ysgolion

Mae therapi cerdd gallu bod yn llesol ar gyfer plant gydag anghenion addysgol arbennig, neu anawsterau cymdeithasol ac emosiynol, mewn ysgolion arbenigol ac ysgolion prif ffrwd.  Mae therapi cerdd yn gallu cymryd lle fel sesiynau un i un neu mewn grwpiau bach, a mae’n gallu helpu gydag amcanion amrywiol, yn dibynnu ar yr anghenion a chryfderau o bob un disgybl. Does dim angen profiad cerddorol blaenorol arnyn nhw, a rydw i wedi cael profiad o weithio gyda disgyblion dieiriau.

Mae therapi cerdd yn gallu: 

  • Helpu efo datblygu sgiliau cyfathrebu, mewn grŵp neu un i un

  • Gwella hyder

  • Darparu ffordd ychwanegol o gyfathrebu (yn cynnwys ar gyfer disgyblion sy ddim yn gallu cyfathrebu trwy siarad) 

  • Darparu ffordd ychwanegol i fynegi emosiynau cymhleth, ac i fynegi hunaniaeth bersonol

  •  Darparu profiad creadigol a pleserus

Rydw i’n gallu cynnig cyflwyniadau / gweithdai am therapi cerdd ar gyfer staff, prosiectau therapi cerdd tymor-byr, a chytundebau therapi cerdd tymor hir. 

Os dach chi eisiau yn fwy o wybodaeth am sefydlu i fyny gwasanaeth therapi cerdd ar gyfer eich ysgol chi, anfonwch e-bost (hdmusictherapy@protonmail.com) neu llenwch y ffurflen cysylltiad, os gwelwch yn dda.

Previous
Previous

Sesiynau Ar Lein